Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
19 Hydref 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13012
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2, 3 a 9 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Dechreuodd yr eitem am 14.24
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
Dechreuodd yr eitem am 15.12
NNDM8111 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal dros dro Reol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8110 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 19 Hydref.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
3 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NNDM8110 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd:
Yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Prisiau Ynni, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
10 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
4 Cwestiynau Amserol
Ni chyflwynwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
5 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.34
Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad am - Nodi tri degawd o gynhyrchu peiriannau Toyota ar Lannau Dyfrdwy
Gwnaeth John Griffiths ddatganiad am - Wythnos Caru ein Colegau (17-21 Hydref).
Gwnaeth Laura Anne Jones ddatganiad am - Diwrnod Menopos y Byd (18 Hydref)
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Ynni adnewyddadwy yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.39
NDM8102 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Ynni adnewyddadwy yng Nghymru', a osodwyd ar 26 Mai 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Gorffennaf 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Comisiynu Cartrefi Gofal
Dechreuodd yr eitem 16.34
NDM8104 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad: Comisiynu Cartrefi Gofal, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl ar ddeiseb P-06-1294 - Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl
Dechreuodd yr eitem am 16.34
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8103 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl’ a gasglodd 14,106 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ardrethi busnes
Dechreuodd yr eitem am 17.44
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8105 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain Fawr.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i leihau trethi annomestig i gefnogi busnesau a diogelu swyddi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi’r gwahanol gyfraddau ardrethi annomestig sy’n bodoli yng Nghymru, gyda chyfran uwch o fusnesau bach a chanolig.
2. Yn croesawu:
a) y rhyddhad ardrethi annomestig y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i drethdalwyr bob blwyddyn, sy’n golygu nad yw 44 y cant yn talu unrhyw filiau.
b) y cymorth ychwanegol gwerth £116 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch eleni er mwyn eu helpu i adfer ar ôl y pandemig, gan ddarparu rhyddhad o hyd at 50 y cant ar eu biliau ardrethi annomestig.
c) y ffaith bod, o ganlyniad i’r rhyddhad yma, 70 y cant o eiddo annomestig yng Nghymru yn derbyn cymorth â’u biliau ardrethi annomestig yn 2022-23.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
24 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegwch pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r system bresennol o ardrethi annomestig gyda chynigion ar gyfer un dreth dir ac eiddo newydd sy'n cwmpasu tir preswyl, tir masnachol, a thir diwydiannol (gyda thir amaethyddol yn parhau i gael ei eithrio).
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
39 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8105 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r gwahanol gyfraddau ardrethi annomestig sy’n bodoli yng Nghymru, gyda chyfran uwch o fusnesau bach a chanolig.
2. Yn croesawu:
a) y rhyddhad ardrethi annomestig y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i drethdalwyr bob blwyddyn, sy’n golygu nad yw 44 y cant yn talu unrhyw filiau.
b) y cymorth ychwanegol gwerth £116 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch eleni er mwyn eu helpu i adfer ar ôl y pandemig, gan ddarparu rhyddhad o hyd at 50 y cant ar eu biliau ardrethi annomestig.
c) y ffaith bod, o ganlyniad i’r rhyddhad yma, 70 y cant o eiddo annomestig yng Nghymru yn derbyn cymorth â’u biliau ardrethi annomestig yn 2022-23.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
24 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
10 Cyfnod Pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch am 18.18 a gohiriwyd y cyfarfod tan y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 18.26
11 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.28
NDM8095 Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)
Byw gyda chanser yng Nghymru: gwella mynediad at wasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu
Daeth y cyfarfod i ben am 18.48
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 25 Hydref 2022